BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022

Mae'r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022!

Mae'r ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol unwaith eto wedi ymuno â BBC Countryfile Magazine ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022.

Mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau enfawr, o effaith yr argyfwng hinsawdd i dros ddegawd o doriadau mewn cyllid, gan ei gwneud hi’n anoddach ymdopi â'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr. 

Mae Gwarchodwyr Parciau yn sicrhau y gofelir am y dirwedd ac y gall mwy o bobl fwynhau Parciau Cenedlaethol yn gynaliadwy: o brosiectau sy'n helpu natur i wella i grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwella mynediad cymunedol at Barciau Cenedlaethol, a gwirfoddolwyr yn helpu pobl i ymweld yn gyfrifol.  

Mae'r gwobrau'n cydnabod ymdrechion staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr dros oddeutu’r flwyddyn ddiwethaf.

Y thema eleni yw Pobl, Natur a'r Hinsawdd:

  • Pobl - i gydnabod gwirfoddolwyr, cyflawniadau oes ac arloeswyr ar gyfer ein mudiad Parc Cenedlaethol  
  • Natur - i gydnabod prosiectau adfer natur, prosiect dad-ddofi tir sy'n cysylltu natur ag iechyd a lles, yn enwedig ar ôl effaith pandemig Covid-19  
  • Hinsawdd – cydnabod pobl a phrosiectau sy’n gysylltiedig â lliniaru'r hinsawdd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gweithio mewn partneriaeth ac ati.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mehefin 2022.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Park Protector Awards | Campaign for National Parks (cnp.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.