BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Immerse UK 2023

Nod y gwobrau yw pontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd a datrys problemau yn y byd go iawn a cheisiadau traws-sector, denu doniau a syniadau newydd, a hwyluso cysylltiadau rhwng myfyrwyr a diwydiant.

Mae gan y Gwobrau 5 categori:

  • Arloesi technegol
  • Celf Ddigidol ac Adrodd Straeon yn Greadigol
  • Dylunio UX (profiad defnyddiwr) ac UI (rhyngwyneb defnyddiwr)
  • Synhwyraidd
  • Y gorau yn gyffredinol

Bydd cyflwyniadau'n cael eu beirniadu ar sail sut y cânt eu cyflwyno, eu creadigrwydd, eu hymarferoldeb, eu dull arloesol, a'u potensial.

I gymryd rhan, rhaid eich bod chi eisoes wedi cofrestru ar raglen gradd yn y DU, israddedig i ôl-raddedig. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Mawrth 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Immerse UK → The Immerse UK Student Awards 2023


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.