BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Merched sy’n Arloesi 2020/21

Mae Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn cynnig 10 Gwobr Merched sy’n Arloesi i entrepreneuriaid benywaidd ledled y DU.

Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i fenywod gyda syniadau cyffrous, arloesol a chynlluniau uchelgeisiol a fydd yn ysbrydoli eraill. Mae’r gwobrau ar gyfer sylfaenwyr, cyd-sylfaenwyr neu uwch wneuthurwyr penderfyniadau benywaidd sy’n gweithio mewn busnesau sy’n weithredol ers o leiaf blwyddyn.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyderus, gyda chefnogaeth gwobr, y gallant wneud cyfraniad sylweddol at her gymdeithasol, amgylcheddol a/neu economaidd frys drwy eu prosiect arloesol.

Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 a phecyn pwrpasol o fentora, hyfforddi a chymorth busnes.

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 14 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV‌‌.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.