BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Merched sy’n Arloesi 2022/23

Mae Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn cynnig hyd at 50 o Wobrau Menywod sy’n Arloesi i fenywod sy'n entrepreneuriaid ym mhob rhan o'r DU. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 a phecyn mentora, hyfforddi a chymorth busnes pwrpasol.

Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i ferched sydd â syniadau cyffrous ac arloesol a chynlluniau uchelgeisiol fydd yn ysbrydoli eraill. Mae'r gwobrau ar gyfer sylfaenwyr benywaidd, cyd-sylfaenwyr neu uwch wneuthurwyr penderfyniadau sy'n gweithio mewn busnesau sydd wedi bod yn gweithredu am flwyddyn, o leiaf. 

Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyderus, gyda chymorth gwobr, y gallant wneud cyfraniad sylweddol at her gymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd dybryd drwy eu prosiect arloesol.

Rhaid i'ch dyfarniad: 

  • gael cyfanswm cais cyllid grant o £50,000
  • dechrau ar 1 Ebrill 2023
  • gorffen ar 31 Mawrth 2024
  • para am 12 mis

I fod yn gymwys am ddyfarniad mae'n rhaid i chi:

  • fod yn fenyw sydd wedi sefydlu, cyd-sefydlu neu’n uwch wneuthurwr penderfyniadau o fewn busnes micro, bach neu ganolig (BBaChau) cofrestredig yn y DU sydd wedi bod yn gweithredu am o leiaf 12 mis erbyn dyddiad cau'r gystadleuaeth
  • bod yn byw yn y DU
  • gwneud eich gwaith prosiect yn y DU
  • bwriadu manteisio ar y canlyniadau o’r DU neu ynddi
  • gallu defnyddio'r cyllid yn gyfreithiol ac yn gytundebol
  • fod ar gael i fynychu panel cyfweld ar-lein yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr a 12 Rhagfyr 2022
  • mynychu 2 fŵt-camp yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Mawrth 2023 ac ym mis Medi 2023
  • bod yn gwbl ymroddedig i wirfoddoli fel model rôl am hyd at 5 diwrnod dros gyfnod y wobr

Bydd cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn agor ar 22 Awst 2022 ac yn cau ar 19 Hydref 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Women in Innovation Awards 2022/23 - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.