BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Stelios ar gyfer Entrepreneuriaid Anabl 2024

Entrepreneur - wheelchair user

Ydych chi'n entrepreneur anabl sy’n cynnig cynnyrch neu wasanaeth busnes clyfar? Ydych chi eisoes wedi dechrau busnes ond angen ychydig o hwb ychwanegol er mwyn symud i'r lefel nesaf?

Mae Gwobrau Stelios ar gyfer Entrepreneuriaid Anabl yn ôl ac yn cynnig y tair gwobr ganlynol:

  • £100,000
  • £60,000
  • £40,000

Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 5pm ddydd Mawrth 11 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: How to apply for the Stelios Awards | Leonard Cheshire

Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru

Darllenwch y canllaw, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes ac i gynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n datblygu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi: Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.