BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Technoleg Ymgolli 2024 Innovate UK

Student wearing virtual reality headset

Mae Gwobrau Technoleg Ymgolli Innovate UK yn dychwelyd ar gyfer 2024!

Nod y gwobrau unigryw hyn yw helpu i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant realiti estynedig (XR). Y syniad yw darganfod ble mae’r dalent XR orau yn y Deyrnas Unedig, a chreu llwybr o ddysgu academaidd i ddatrys problemau yn y byd go iawn trwy gyfleoedd interniaeth mewn cwmnïau blaenllaw sy’n arloesi â thechnoleg ymgolli.

Dyma gategorïau eleni:

  • Gêm Ymgolli Orau
  • Adrodd Straeon XR Creadigol
  • Synhwyraidd
  • Arloesedd Technegol
  • Dylunio profiad y defnyddiwr (UX) a’r rhyngwyneb defnyddiwr (UI)

Y dyddiad cau ar gyfer pob categori yw dydd Sul 24 Mawrth 2024.

Gwyliwch y recordiad o ddigwyddiad lansio ar-lein 26 Chwefror i glywed manylion cystadleuaeth gwobrau 2024, gan gynnwys y categorïau a’r gwobrau a chael atebion o sesiwn holi ac ateb.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Innovate UK Immersive Tech Network → Innovate UK Immersive Tech Awards 2024


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.