BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022

Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.  

Dyma'r categorïau eleni: 

  • Gwesty'r Flwyddyn GO
  • Gwely a Brecwast / Tafarn y Flwyddyn GO
  • Llety Hunanarlwyo'r Flwyddyn GO
  • Parc Gwyliau'r Flwyddyn GO
  • Safle Carafanau, Gwersylla neu Glampio GO
  • Atyniad y Flwyddyn GO
  • Gweithgaredd y Flwyddyn GO
  • Gwobr Digwyddiad Gorau'r Flwyddyn GO
  • Gwobr Bwyd a Diod GO
  • Gwobr Cyflenwr Twristiaeth y Flwyddyn GO
  • Gwobr Sgiliau GO
  • Gwobr Twristiaeth Werdd Cyfrifol a Chynaliadwy GO
  • Gwobr Cyfeillgar i Anifeiliaid Anwes GO
  • Gwobr Person Ifanc mewn Twristiaeth a Lletygarwch GO
  • Gwobr Newydd-ddyfodiad Gorau GO
  • Gwobr Beirniaid Twristiaeth GO North Wales

Os ydych chi'n ymwneud â diwydiant twristiaeth y rhanbarth, yna mae'r gwobrau hyn yn addas i chi!

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Hydref 2022.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Go North Wales Tourism Awards | Venue Cymru 2022
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.