BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau UK Technology Fast 50

Mae’r Deloitte Technology Fast 50 yn un o raglenni gwobrau technoleg mwyaf blaenllaw'r DU, sy'n dathlu arloesedd ac entrepreneuriaeth. A hithau yn ei 25ain flwyddyn lwyddiannus erbyn hyn, mae'n gyfle i'ch cwmni gael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu.

Ond beth fyddai ennill yn ei olygu i'ch cwmni? Mae llawer o fanteision posibl yn sgil cael eich cydnabod fel enillydd Technology Fast 50, gan gynnwys:

  • Meincnod llwyddiant
  • Cydnabyddiaeth well i’ch brand ac ymhlith cwsmeriaid
  • Mwy o amlygrwydd gyda buddsoddwyr
  • Dylanwad cadarnhaol ar recriwtio, cadw a morâl gweithwyr
  • Derbyn mynediad i hyfforddiant am ddim o ansawdd uchel drwy'r Hwb Sgiliau Fast 50 mewn cydweithrediad â'r darparwr hyfforddiant Multiverse
  • Sylw yn y cyfryngau lleol, cenedlaethol a chymdeithasol
  • Cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr mewn seremoni wobrwyo unigryw i enillwyr Fast 50

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Home | UK Technology Fast 50 | Deloitte UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.