BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021

Mae Chwarae Teg unwaith eto’n dathlu llwyddiannau menywod o bob cefndir a cham mewn bywyd neu waith ledled Cymru.
Mae Womenspire yn cydnabod pob agwedd ar fywydau menywod, o lwyddiannau personol i gyfraniadau rhagorol.

Mae Womenspire Gwobrau Chwarae Teg yn dathlu llwyddiannau anhygoel menywod ledled Cymru ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Dyma’r Categorïau ar gyfer 2021:

  • Aelod o'r Bwrdd
  • Hyrwyddwr Gymunedol
  • Entrepreneur
  • Arweinydd
  • Dysgwr
  • Seren Ddisglair
  • Menyw mewn Chwaraeon
  • Menyw ym maes STEM
  • Menyw mewn Iechyd a Gofal

Mae’r enwebiadau’n cau dydd Llun 21 Mehefin 2020.

COFIWCH Y DYDDIAD: Gwobrau Womenspire Chwarae Teg 2021, 30 Medi 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Chwarae Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.