BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024

Person looking at a laptop - online learning

Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024.

Mae Gwobrau blynyddol Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dathlu llwyddiant unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol a ddangosodd angerdd, ymroddiad ac egni ardderchog i’w gwella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu.

Mae’r gwobrau yn rhoi sylw i effaith dysgu gydol oes yng Nghymru ac mae’n gyfle i arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywydau.

Categorïau Gwobr 2024:

  • Sgiliau Gwaith
  • Oedolyn Ifanc
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – dysgu Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
  • Sgiliau Hanfodol Bywyd
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid Gweithle

Rhaid cyflwyno enwebiadau erbyn y dyddiad cau: Dydd Gwener 12 Ebrill 2024.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion - Learning and Work Institute (sefydliaddysguagwaith.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.