BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl Fegan Cymru 2024

Vegan streetfood stall

Mae Gŵyl Fegan Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2024 ac yn cael ei chynnal ddydd Sul 4 Awst yn y Tramshed, Caerdydd.

Archebwch stondin ar gyfer eich busnes Fegan; rhaid i bob stondin werthu a hyrwyddo cynnyrch fegan yn unig: Applying for a stall (google.com). Mae croeso i fusnesau nad ydynt yn fegan ar yr amod mai dim ond cynnyrch a gwasanaethau fegan y maent yn eu gwerthu a’u hyrwyddo ar y diwrnod.

Bydd cyflwyniadau a sgyrsiau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd: Programme for the Day – Welsh Vegan Festival

Cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales 2024

Cynhelir Cynhadledd Bwyd a Diod Cymru Blas Cymru / Taste Wales ddydd Iau 24 Hydref 2024 yn Venue Cymru, Llandudno.

Os ydych chi'n fusnes bwyd a diod o Gymru, ni ddylid colli'r gynhadledd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys seminarau ymarferol, gweithdai'r diwydiant, paneli arbenigol, a meddygfeydd arbenigol, ynghyd â chyfle i gael gwybod am y gyfres lawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.

Mwy o fanylion yn dod yn fuan: Blas Cymru / Taste Wales | Business Wales - Food and drink (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.