BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl Fintech Singapore 2020

Gŵyl Fintech Singapore 2020 yw’r digwyddiad Technoleg Ariannol mwyaf yn y byd, gan gynnig platfform i’r gymuned FinTech gysylltu, cydweithredu a chreu ar y cyd. Mae ar gyfer pawb – os ydych chi’n dechrau arni, yn gwmni technoleg, yn fuddsoddwr, yn sefydliad ariannol, yn sefydliad ymchwil neu’n arloeswr proffesiynol.

Bydd y digwyddiad Hybrid ar-lein am 24 awr y dydd am 5 diwrnod gyda dros 40 o ddigwyddiadau lloeren byd-eang mewn hybiau FinTech bedwar ban byd, ar ffurfiau ffisegol a digidol.

Bydd yr ŵyl yn dechrau ar 7 Rhagfyr 2020 ac yn dod i ben ar 11 Rhagfyr 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ŵyl FinTech Singapore.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.