BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl y Gelli 2022

Mae Gŵyl y Gelli wedi datgelu'r rhaglen lawn ar gyfer ei 35ain rhifyn y gwanwyn yn y Gelli Gandryll, rhwng 26 Mai a 5 Mehefin 2022, gyda mwy na 500 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. 

Gan ddychwelyd ar gyfer ei digwyddiad gwanwyn wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019, Gŵyl y Gelli yw prif ŵyl syniadau'r byd, gan ddod â darllenwyr ac awduron ynghyd mewn digwyddiadau cynaliadwy i ysbrydoli, archwilio a diddanu. 

Mae'r digwyddiadau'n dechrau gyda'r Rhaglen i Ysgolion am ddim cyn HAYDAYS ac mae digwyddiadau #HAYYA i deuluoedd yn annog darllenwyr ifanc i fod yn greadigol drwy gydol yr wythnos hanner tymor. 

Bydd rhai digwyddiadau'n cael eu ffrydio ar-lein: bydd mwy o fanylion ar gael cyn hir. Bydd bron pob un o'r digwyddiadau yn cael eu recordio ac ar gael yn yr archif ar-lein Hay Player ar ôl yr ŵyl.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i hayfestival.org/wales 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.