BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gŵyl y Gelli Rithwir 2021

Mae rhaglen y gwanwyn Gŵyl y Gelli, sy’n 34 oed eleni, wedi’i lansio. Eleni, bydd yr ŵyl yn darlledu am ddim ar-lein o’r Gelli Gandryll i’r byd rhwng 26 Mai 2021 a 6 Mehefin 2021.

Dros 12 diwrnod, bydd dros 200 o awduron cydnabyddedig, llunwyr polisïau byd-eang, haneswyr, beirdd, arloeswyr a dyfeiswyr yn ymuno â Gŵyl Rithwir y Gelli i ysbrydoli, archwilio a diddanu mewn digwyddiadau ar gyfer pob oed. Bydd pob digwyddiad yn cael ei isdeitlo ac ar gael i’w wylio am ddim 24 awr wedi iddo gael ei ddarlledu’n fyw.

Bydd yr holl ddigwyddiadau yna ar gael yn yr archif ar-lein – Hay Player – gweler y rhestri unigol am ragor o fanylion.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gŵyl y Gelli .

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.