BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hac Iaith 2024

Hac Iaith 2024

Mae M-SParc a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gynnal y trydydd Hac Iaith Gymraeg. Mae mynediad at fuddsoddiad o gronfa o £24,000 ar gael i’r syniadau buddugol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arloeswyr a rheini sy’n frwdfrydig am dechnoleg gyfrannu at y defnydd o’r Gymraeg, drwy dreialu datrysiadau digidol sy’n cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn amgylcheddau digidol. I gefnogi ac annog dysgwyr, a chaniatáu i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Sut bydd o’n gweithio?

Deallir efallai na fydd hyn yn ddigon i wneud cynnyrch newydd sy’n gweithredu’n llawn, ond gallai fod yn ddigon i:

  • Ehangu gwasanaeth presennol
  • Ychwanegu offer at wasanaethau presennol
  • Creu prawf o gysyniad
  • Ariannu ymchwil a datblygu
  • Creu peilot

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar yr 22ain o Chwefror 2024, lle byddwch yn darganfod mwy am yr Hac a’r disgwyliadau. Mae’n syniad da ymuno â’r digwyddiad ar y 22ain hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi llenwi’r ffurflen google. Efallai y byddwch chi’n darganfod gwybodaeth hanfodol!

Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno cais, byddwch chi’n dod i wybod os ydych chi drwodd i’r rownd pitsio!  Mae hyn yn digwydd ar 1 Fawrth 2024 a byddwch yn cyflwyno’n fyw i gynulleidfa a phanel o feirniaid. Bydd yr enillydd(wyr) yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar y diwrnod!

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hac Iaith 2024 - M-SParc


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.