BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hapwiriadau ac archwiliadau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau wrth i’r Nadolig agosáu

Wrth iddi brysuro ar fusnesau wrth i’r gwyliau agosáu, mae’n rhaid iddyn nhw i gyd gael mesurau ar waith i ddiogelu gweithwyr, ymwelwyr a chwsmeriaid rhag risg coronafeirws (COVID-19).

Gydol mis Rhagfyr, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac archwiliadau drwy ffonio ac ymweld â busnesau i sicrhau eu bod yn ddiogel o ran COVID.

Yn ystod y galwadau a’r ymweliadau, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn rhoi cyngor ac arweiniad i reoli risg a diogelu gweithwyr ac ymwelwyr, ond os nad yw busnesau yn llwyddo i gymryd y camau angenrheidiol, bydd camau’n cael eu cymryd ar unwaith.

Gall hyn amrywio o roi cyngor penodol, rhoi hysbysiadau gorfodi, atal rhai arferion gwaith penodol hyd nes y byddant yn ddiogel ac, os yw busnesau yn methu â chydymffurfio, gallent gael eu herlyn.

Mae rhagor o wybodaeth am hapwiriadau ac archwiliadau ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.