BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpu eich busnes bwyd a diod i fod yn fwy cynaliadwy

baker making bread

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd.

Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd ar flaen eu meddwl.

Mae defnyddwyr bellach yn disgwyl i’w bwyd a’u diod gael eu cyrchu a’u darparu’n gynaliadwy, gan ddibynnu ar weithgynhyrchwyr i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Ymunwch â’r nifer cynyddol o fusnesau sy’n elwa o aelodaeth o Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a chael gwybod am:

  • Offer cynaliadwyedd ar gyfer eich busnes
  • Creu gweithlu gwyrdd ar gyfer y dyfodol
  • Gweledigaeth strategol gynaliadwy
  • Cefnogaeth ehangach i helpu eich busnes i gwrdd â heriau'r dyfodol
  • Cydweithio i leihau gwastraff bwyd

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen hon: Bwyd a Diod Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.