BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi'

Younger generation caring about older relatives teaching using computer

Wrth i'r gaeaf agosáu a'r galw ar feddygon teulu a gwasanaethau gofal argyfwng gynyddu, mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, yn atgoffa pawb o'r gwahanol wasanaethau sydd ar gael ledled Cymru i gael triniaeth gyflym ac o safon.

Mae'r ymgyrch 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi' gan Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y gwasanaethau a'r gweithwyr iechyd proffesiynol lleol eraill sydd ar waith yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Maen nhw'n sicrhau bod pobl sydd angen gofal brys yn cael eu trin yn gyflym - heb orfod mynd at eu meddyg teulu neu'r adran achosion brys agosaf.

Mae cyngor ac arweiniad arbenigol hefyd ar gael 24 awr o'r dydd, bob dydd, drwy linell gymorth a gwefan GIG 111 Cymru, sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae gwasanaeth GIG 111 yn cynnig 76 o wirwyr symptomau ar-lein a staff medrus ar ben arall y ffôn. Mae'r gwasanaeth yn gallu datrys anghenion gofal unigolyn dros y ffôn neu ei gyfeirio at y lle iawn, i gael triniaeth gyflym ac addas i'w anghenion. Nid apwyntiad gyda meddyg teulu neu driniaeth mewn adran achosion brys fydd hyn bob tro - gallai'r driniaeth fwyaf addas fod ar gael drwy fferyllfa, uned mân anafiadau neu optegydd.

Gall pobl sydd ag anghenion iechyd meddwl brys gael cymorth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb atgyfeiriad traddodiadol gan feddyg teulu, drwy wasanaeth 'pwyso 2' GIG 111 Cymru.

Yn ogystal, mae 99% o fferyllfeydd yng Nghymru yn gallu rhoi cyngor a thriniaeth ar gyfer cyflyrau amrywiol a fyddai fel arall yn cael eu trin gan feddyg teulu neu wasanaethau eraill y GIG, drwy'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol "Helpwch Ni i'ch Helpu Chi i gael triniaeth mor gyflym â phosib y gaeaf hwn" – Pennaeth GIG Cymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.