BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her Faraday Battery

Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda Her Faraday Battery i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi y gellir cynnyddu eu graddfa.

Nod y gystadleuaeth hon yw:

  • cefnogi ymchwil a datblygiad BBaCh i ddatblygu technolegau batri yn y DU
  • cefnogi BBaCh i ddefnyddio UK Battery Industrialisation Centre (UKBIC) a dangos technolegau ar raddfeydd addas i gwsmeriaid
  • cynyddu ymgysylltiad ag UKBIC
  • symud arloesiadau batri'r DU o botensial technolegol tuag at allu masnachol
  • datblygu a sicrhau cadwyni cyflenwi deunydd a gweithgynhyrchu ar gyfer technolegau batri yn y DU

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 11am, 4 Ebrill 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - UK Battery Industrialisation Centre SME Credit Round 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

Os colloch chi ddigwyddiad briffio'r gystadleuaeth, gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad a gweld sleidiau’r cyflwyniad drwy glicio ar y ddolen ganlynol UKBIC SME Credit Round 1 - Competition Briefing Event - Innovate UK KTN (ktn-uk.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.