BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Heropreneurs

Mae Heropreneurs yn dathlu ac yn cydnabod egni, brwdfrydedd ac ymroddiad Cymuned y Lluoedd Arfog Prydeinig sy'n ceisio creu llwybr newydd mewn busnes.

Mae Rhaglen Fentora Heropreneurs ar gael am ddim i gyn-bersonél a phersonél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd sydd â chynnig busnes cadarn, ac mae'n paru arweinwyr y diwydiant ac entrepreneuriaid hunangyflogedig sydd â blynyddoedd o brofiad gyda'r rheiny sy'n ceisio cael mewnwelediad ac arweiniad masnachol ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau neu fusnesau newydd.

Mae dod yn aelod o'r rhaglen fentora yn agor y lefel nesaf o fynediad i rwydwaith Heropreneurs. Byddwch yn cael mentora un-i-un gyda mentor Heropreneurs, yn cael eich gwahodd i'w gweithdai Dragons Den unigryw, yn cael mynediad cynnar i ddigwyddiadau, yn ogystal â mynediad am ddim diderfyn i seminarau, gweithdai ac adnoddau busnes. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Mentoring Community Excellence | Heropreneurs
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.