BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb ariannol o £9 miliwn i gynlluniau band eang

Bydd cynlluniau band eang ledled Cymru yn derbyn gwerth dros £9 miliwn o gyllid i'w helpu i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy i gymunedau sydd ei angen, diolch i Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru.

Mae'r gronfa, a sefydlwyd i helpu awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i fynd i'r afael â materion cysylltedd yn eu cymunedau, eisoes wedi helpu nifer o brosiectau ledled Cymru, ac mae pedwar prosiect arall bellach yn derbyn cyllid.

Bydd yr arian yn darparu gwell mynediad band eang i gymunedau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg a Gogledd Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais i'r cynllun, mae rhagor o wybodaeth ar gael: Y Gronfa Band Eang Lleol
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.