BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb i recriwtio gyrwyr bysiau, coetsys a cherbydau nwyddau trwm gyda diwygiadau arfaethedig i reolau hyfforddi

Gallai niferoedd gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsys gael hwb drwy ddiwygiadau arfaethedig i reolau hyfforddi gyrwyr.

Nod rhai o'r newidiadau arfaethedig yw helpu i'w wneud yn fwy fforddiadwy ac yn fwy effeithlon i yrwyr adnewyddu eu cymwysterau neu ddychwelyd i'r diwydiant.

Mae’r ymgynghoriad newydd yn cynnig diwygiadau i'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr (DCPC).
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 27 Ebrill 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  Driver Certificate of Professional Competence (DCPC) changes - GOV.UK (www.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.