BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb o £39 miliwn i deithwyr bysiau yng Nghymru

Bus with destination - St David's

Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd y gefnogaeth i'r diwydiant bysiau yng Nghymru yn parhau, gan gadarnhau £39 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth y byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy 'Grant Rhwydwaith Bysiau' newydd.

Bydd y grant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau pan ddaw Cronfa Bontio Llywodraeth Cymru ar gyfer Bysiau i ben ddydd Sul, 31 Mawrth 2024.

Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2024 ac yn para am 12 mis. 

Bydd gofyn i awdurdodau lleol fodloni amodau penodol i gael unrhyw gyllid.

Mae’r amodau’n cynnwys sicrhau bod llwybrau ac amserlenni yn gwella amserau teithio, creu cyfleoedd i wella cysylltiadau lle gellir gwneud hynny, a gwella'r wybodaeth am amserau gwasanaethau bws.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hwb o £39m i deithwyr bysiau yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.