BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant am ddim ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol

Woman being harassed

Mae cyrsiau am ddim ar gael yn ystod 2024 a 2026 i'ch helpu i ddelio â sefyllfaoedd niweidiol posibl fel aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.

Ydych chi wedi clywed jôc, sylwadau neu sarhad yn erbyn menywod neu ferched erioed, ac wedi difaru na wnaethoch chi ddweud rhywbeth i'w herio?

Efallai eich bod wedi gweld rhywbeth oedd yn mynd yn groes i'r graen i chi ond nad oedd gennych yr hyder na'r sgiliau i ymyrryd?

Pan fyddwn yn gweld neu glywed sylwadau diangen sy'n diraddio menywod a merched, sydd yn aml yn esgus eu bod yn 'tynnu coes', a ninnau’n gwneud dim, rydym yn grymuso'r aflonyddwr. Er enghraifft, rhywiaeth, casineb at fenywod a merched, aflonyddu neu sylwadau digroeso eraill. Pan fyddwn yn gwneud neu ddweud dim am y pethau hyn, rydym yn creu diwylliant lle mae rhai’n credu y gallant fynd ymhellach fyth ar hyd y trywydd hwnnw.

Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi gael sgyrsiau gyda'ch ffrindiau a'ch cydweithwyr am y materion hyn.

Yr arbenigwyr yn y diwydiant, Kindling Transformative Interventions, Plan International UK a Beyond Equality sy'n darparu'r hyfforddiant.

Gall unrhyw un hyfforddi i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol. Rydym yn darparu'r hyfforddiant am ddim i'r canlynol:

  • sefydliadau
  • grwpiau cymunedol
  • timau chwaraeon
  • lleoliadau addysg
  • gweithleoedd

Mae'r cyrsiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hyfforddiant am ddim ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol | LLYW.CYMRU

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau. 

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost: Cysylltwch â Byw Heb Ofn | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.