BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant eco-lythrennedd am ddim i grwpiau cymunedol

Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol neu sefydliad gwirfoddol sydd wedi'i leoli mewn ardal drefol yn ne Cymru?

Hoffech chi gymryd rhan mewn cynllun newydd am ddim i helpu i ddiogelu ac adfer byd natur?
Yna, efallai mai dyma’r union gwrs cwrs i chi!
Mae Nabod Natur – Nature Wise yn rhaglen hyfforddi ar-lein gan Cynnal Cymru – Sustain Wales sy'n eich addysgu am sut mae'r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau sy'n ei wynebu, a sut y gall pawb helpu natur i ffynnu.

Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol Rheilffordd Great Western, mae gan y cwrs Eco-lythrennedd Trefol Nabod Natur ffocws penodol ar sut y gall gweithredu ymarferol, gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, fod o fudd i natur mewn lleoliad trefol.

Cynhelir y cyrsiau hyd at fis Mawrth 2023, gan gynnig lleoedd am ddim i staff, gwirfoddolwyr neu aelodau o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol wedi’u lleoli o fewn yr ardaloedd trefol ar hyd prif lein GWR - Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Free courses to help urban community groups act on the nature crisis! – Cynnal Cymru – Sustain Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.