BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio safon menopos i helpu sefydliadau i gefnogi gweithwyr profiadol

Mae’r BSI wedi lansio arweiniad newydd gyda’r nod o helpu sefydliadau i gefnogi gweithwyr sy’n cael profiad o’r menopos neu’r mislif a’u galluogi i gadw pobl brofiadol a dawnus o bob oedran.

Mae’r BSI, sef Corff Safonau Cenedlaethol y DU, wedi cyhoeddi safon y mislif, iechyd mislifol a’r menopos yn y gweithle (BSI 30416), yn dilyn ymgynghori helaeth ag arbenigwyr a’r cyhoedd. Mae’n amlinellu argymhellion ymarferol ar gyfer addasiadau i’r gweithle, ynghyd â strategaethau i gyd-fynd â mentrau lles presennol, i helpu sefydliadau i fodloni anghenion gweithwyr sy’n cael profiad o’r menopos neu’r mislif.

Nod yr arweiniad yw galluogi sefydliadau i flaenoriaethu anghenion cydweithwyr a mynd i’r afael â cholled posibl gweithwyr medrus, a all fod ym mhenllanw eu gyrfa, ac mae’n dilyn ymchwil Cymdeithas Fawcett, sy’n awgrymu, yn ôl amcan, bod 10% o fenywod sy’n mynd drwy’r menopos wedi gadael y gweithlu oherwydd eu symptomau, a all amrywio o chwiwiau poeth i’r bendro, diffyg cwsg, anystwythder y cyhyrau a’r cymalau, gyda’r nifer yn codi i 25% yn achos y rhai sydd â symptomau mwy difrifol.

Nod y safon yw rhoi enghreifftiau o arfer da i gyflogwyr, gan gynnwys arweiniad ar bolisi, cynllunio gwaith, diwylliant y gweithle ac agweddau corfforol ar waith. 

Gallwch lawrlwytho’r safon am ddim trwy ddilyn y ddolen ganlynol BS 30416:2023 | 31 May 2023 | BSI Knowledge (bsigroup.com)

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Menopause standard launched to help organizations support workers | BSI (bsigroup.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.