BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llwybr Teithio Llesol a gwelliannau i'r A55 gwerth £30 miliwn yn cael eu hagor yn swyddogol

Mae'r cynllun £30 miliwn, sy'n cynnwys £20.7 miliwn gan yr UE, yn mynd i'r afael â'r risg uwch o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ac mae hefyd yn gwella diogelwch ar y rhan hon o'r ffordd, oedd dros 50 mlwydd oed. Roedd y gwaith yn cynnwys cau wyth bwlch yn y llain ganol lle roedd cerbydau amaethyddol yn arfer croesi.  

Mae hefyd wedi darparu pedwar cilometr o lwybr teithio llesol newydd a gwell yn cysylltu Abergwyngregyn â Thal-y-bont, Llanfairfechan a Llwybr 5 o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ôl ymgynghori â thrigolion Abergwyngregyn. Mae grwpiau beicio wedi croesawu'r datblygiad.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Llwybr Teithio Llesol a gwelliannau i'r A55 gwerth £30 miliwn yn cael eu hagor yn swyddogol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.