BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llyfr Damweiniau: dogfen hanfodol ar gyfer eich busnes

Mae Llyfr Damweiniau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn ddogfen werthfawr y gall sefydliadau ei defnyddio i gofnodi gwybodaeth am ddamweiniau. 

Gellir defnyddio’r Llyfr Damweiniau i gofnodi manylion yr holl ddamweiniau yn y gwaith gan gynnwys anafiadau o ddamweiniau yn y gwaith y mae'n rhaid i gyflogwyr roi gwybod amdanynt o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 (RIDDOR).

Mae'r llyfr yn cynnwys 50 o ffurflenni cofnodi damweiniau tyllog ac mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo defnyddwyr i gydymffurfio â GDPR. 

I gael mwy o wybodaeth am iechyd a diogelwch ar gyfer eich busnes, ewch i HSE: Information about health and safety at work
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.