BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith

Architect

Mae pum penderfyniad ar brosiectau ynni adnewyddadwy newydd mawr wedi cael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans ers iddi gael ei phenodi ym mis Medi, gan gyfrannu dros 280 MW o ynni adnewyddadwy i Gymru - sy'n cyfateb i bweru mwy na 180,000 o gartrefi yng Nghymru.

Wrth siarad â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector ynni adnewyddadwy yng nghynhadledd brysur Dyfodol Ynni Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet gynlluniau i:

  • Ganiatáu i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) wneud penderfyniadau ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW, gan leihau'r amser penderfynu o'r dechrau i'r diwedd o 12 wythnos o leiaf. 
  • Gwella capasiti a gwytnwch gwasanaethau cynllunio drwy ddechrau mynd i'r afael â'r prinder cynllunwyr ar lefelau lleol a chenedlaethol.  
  • Gwella adnoddau cynllunio'r Llywodraeth i sicrhau y gellir ystyried ceisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn gyflymach.

Yn ogystal â'r pum prosiect ynni adnewyddadwy mawr sydd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru ers mis Medi, mae Gweinidogion wedi derbyn adroddiadau arolygwyr ar gyfer pum cais arall sy'n cael eu hystyried yn weithredol a 15 cais arall sydd ar wahanol gamau o safbwynt eu derbyn a'u harchwilio.  

Bydd cynigion newydd yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yn gyflymach.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.