BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i apêl i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol

Bydd apêl am roddion i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol ymdopi drwy’r argyfwng costau byw yn elwa ar rodd o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae 'Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw', a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â Newsquest, yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol ar lawr gwlad i dalu am gostau cynyddol, ac ar adeg pan fo’r galw am y gwasanaethau hynny'n cynyddu.

Mae sefydliadau'r sector gwirfoddol wedi bod yn llenwi rhai o fylchau sefydliadau'r sector cyhoeddus wrth ddiwallu anghenion. A hynny oherwydd eu bod nhw nid yn unig yn delio â mwy o alw ar ôl y pandemig, ond hefyd mae'r argyfwng costau byw yn rhoi llawer ohonynt dan straen i gadw dau ben llinyn ynghyd a pharhau i ddarparu gwasanaeth.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i apêl i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol | LLYW.CYMRU

Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw

“Rydym heddiw yn annog pobl a busnesau i’n helpu i godi cymaint o arian â phosibl i atal caledi rhag rhwygo ein cymunedau. I wneud y gorau o bob cyfraniad, byddwn yn cyfateb â hyd at £25,000 o roddion gan unigolion, gyda ychwanegu £1 am bob £1 sydd yn cael ei roi.”

Os oes gennych chi fusnes sydd â diddordeb mewn cyfrannu at yr apêl, cysylltwch â ni yma neu e-bost katy@communityfoundationwales.org.uk
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.