BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru’n helpu dros 16,000 o weithwyr i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19

Cafodd dros 16,000 o weithwyr eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19, diolch i gynllun Llywodraeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.

Amcan y Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), rhan o Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw helpu pobl sydd ar incwm is a’r rheini sydd â’u swyddi yn y fantol i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a chreu gyrfa newydd.

Mae colegau addysg bellach ledled Cymru’n cynnig cyrsiau trwy’r PLA mewn meysydd lle mae prinder sgiliau, fel:

  • adeiladu
  • peirianneg
  • TGCh
  • iechyd
  • lletygarwch

Cafodd Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru ei rhoi ar waith yn gynt na’r bwriad, oherwydd dyfodiad pandemig COVID-19. Yn ogystal, cynigiwyd y rhaglen i weithwyr a chyflogwyr oedd ar ffyrlo dros y pandemig.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Llywodraeth Cymru’n helpu dros 16,000 o weithwyr i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19 | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.