Mae busnesau ac elusennau'n cael eu hannog i gryfhau eu harferion seiberddiogelwch nawr wrth i ffigurau newydd ddangos bod amlder ymosodiadau seiber yn cynyddu.
Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi nodyn yn datgan nad yw'n ymwybodol o unrhyw fygythiadau seiber penodol cyfredol i sefydliadau'r DU mewn perthynas â digwyddiadau o amgylch yr Wcráin, ond mae'n annog sefydliadau i ddilyn camau syml yn ei chanllawiau i leihau'r risg o ddioddef ymosodiad.
Dylai busnesau bach fabwysiadu'r cynllun Hanfodion Seiber i ddiogelu rhag y bygythiadau seiber mwyaf cyffredin fel ymosodiadau potsian a defnyddio'r Canllaw Busnesau Bach i wella arferion seiberddiogelwch.
Dylai sefydliadau mwy ddefnyddio Pecyn Gwybodaeth y Bwrdd sicrhau bod swyddogion gweithredol cwmnïau yn gweithredu ar wydnwch seiber a dylai elusennau ddilyn y Canllaw Elusennau Bach i hybu gweithrediadau seiberddiogelwch.