BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu â’r Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon – canllawiau newydd

Pecyn Cymorth ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig ar Fasnachu â’r Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon: Mae crynodeb newydd o gamau y gall fod angen i fusnesau bach a chanolig eu cymryd er mwyn masnachu â’r Undeb Ewropeaidd nawr ar gael. Mae’r ddogfen yn rhoi trosolwg o’r camau i’w cymryd, mae’n amlinellu cymorth, llinellau cymorth ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau bach a chanolig, ac mae’n cyfeirio pobl at ganllawiau mwy manwl sydd ar gael ar wefannau’r Llywodraeth. 

Symud nwyddau i Iwerddon: Mae Tollau Iwerddon wedi cyflwyno swyddogaethau ychwanegol ar gyfer y rhai sy’n defnyddio Gwasanaeth Hysbysiadau Cyn Teithio - rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf drwy negeseuon testun ac e-bost ar gyfer croesi'r sianel gyda llwythi

Symud nwyddau i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr: Camau gweithredu ar gyfer busnesau ym Mhrydain Fawr

Ymestyn y Cynllun Cymorth i Symud Nwyddau i gefnogi cynnyrch organig: Mae masnachwyr sy’n symud cynnyrch organig i Ogledd Iwerddon bellach yn gymwys am gymorth yn dilyn ehangu cynllun a oedd â’r nod o wneud y broses o symud bwyd-amaeth o Brydain Fawr yn llawer haws. Am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad hwn ewch i GOV.UK, ac am ragor o wybodaeth am y cynllun newydd, ewch i GOV.UK.

Gweminarau ar gyfer cynulleidfaoedd yr UE: Gellir gweld recordiadau o weminarau diweddar ar gyfer cynulleidfaoedd yr UE (yn cynnwys manylion ar ddefnyddio llwybrau croesfan fer dros y Sianel, llwybrau i Wlad Belg a’r Iseldiroedd) ar GOV.UK.

  • Moving Goods Between Great Britain and France a gynhaliwyd ar 12 Chwefror. Ewch i GOV.UK i wylio’r recordiad. 
  • Moving Goods Between Great Britain and Ireland a gynhaliwyd ar 26 Chwefror. Ewch i YouTube i wylio’r recordiad. 

Gweminarau ar gyfer mewnforwyr cynnyrch bwyd a diod o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr: Cofrestrwch ar gyfer gweminarau a gwylio recordiadau o weminarau ynghylch newidiadau i’r broses o fewnforio bwyd a diod, yn cynnwys bwyd cyfansawdd a chynnyrch pysgodfeydd o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr o 1 Ebrill 2021. Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.

Cymorth a chefnogaeth ar gyfer proses bontio’r DU: Gallwch gael cymorth ar gyfer proses bontio’r DU gyda gweminarau ar-lein gan CThEM. Mae fideo YouTube ar gyfrifoldebau masnachwyr wrth ddefnyddio cyfryngwr wedi’i ychwanegu. I weld hwn ewch i GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.