BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda'r UE: Gweminarau a Phodlediadau

Newydd: Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnal cyfres o weminarau a sgyrsiau seiberddiogelwch am ddim ar gyfer busnesau o bob maint, sefydliadau addysgol ac elusennau yn y DU.    

Newydd: Allforio nwyddau o Brydain Fawr i'r UE drwy'r croesfannau byr:  Mae gweminar a sesiwn holi ac ateb ar y materion sy'n codi o nwyddau sy'n symud o Brydain Fawr i'r UE, drwy'r croesfannau byr, wedi'u cyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK.

Cynnwys fideo i gadw eich busnes i symud: mae fideos byr ar alw sy'n ymdrin â'r rheolau newydd ar allforion, mewnforion, tariffau, data a llogi ar gael i'w gweld yma.   

Mae DEFRA yn cynnal cyfres o weminarau sy'n cynnwys mewnforio bwyd a diod, gan gynnwys cynhyrchion bwyd a physgodfeydd cyfansawdd o'r UE i Brydain Fawr o 1 Ebrill 2021. Am ragor o wybodaeth ac i ddysgu sut i gofrestru ar gyfer gweminarau perthnasol, ewch i GOV.UK.

Gweminarau ar gyfer busnesau sy'n masnachu gyda'r UE: Gweld rhestr o weminarau, cofrestru i wylio gweminarau byw neu ar alw.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.