BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Meddyliwch cyn clicio: Y dacteg seiberdroseddu fwyaf cyffredin i fod yn ymwybodol ohoni

Wyddech chi y cafodd 39% o fusnesau a 26% o elusennau yn y DU ryw fath o dramgwydd neu ymosodiad seiberddiogelwch yn ystod y deuddeg diwethaf? Cymerwyd y ffigurau hyn o'r Arolwg blynyddol diweddaraf achosion o dramgwydd Seiberddiogelwch a gynhyrchir gan y llywodraeth. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd mewn gweithio o bell o ganlyniad uniongyrchol i bandemig COVID-19. Yn ei dro, mae hyn wedi gwneud sawl sefydliad yn fwy agored i ymosodiad seiber. 

Yng Nghymru'n unig, mae data'r Swyddfa Gwybodaeth am Dwyll Cenedlaethol yn dangos bod dros £53 miliwn wedi cael ei golli i dwyll a seiberdroseddu y llynedd, sy'n swm sylweddol o arian i droseddwyr ei ddwyn oddi ar wlad o dair miliwn o bobl. 

Ni all busnesau, elusennau nac unig fasnachwyr rhanbarthol fforddio colledion mor niweidiol, felly beth mae sefydliadau'n eu gwneud i ddiogelu eu hunain? Fel y mae'r ffigurau hyn yn dangos, ni fu erioed adeg mor dyngedfennol i roi mesurau ar waith er mwyn i chi beidio â bod yn rhan o'r ystadegau hynny. Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i leihau pa mor agored ydych i niwed a gall Canolfan Seibergadernid Cymru eich helpu yn hyn o beth. 

Y bygythiad mwyaf cyffredin a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr ar hyn o bryd yw negeseuon gwe-rwydo drwy e-bost. Gall hyn fod yn ymosodiad cyffredinol neu'n ymosodiad gyda mwy o ffocws ar eich sefydliad. Yr allwedd i amddiffyn eich hun rhag yr ymosodiad hwn yw ymwybyddiaeth ymhlith staff fel bod pob cyflogai yn deall prif elfennau adnabod e-bost gwe-rwydo os neu pan fyddant yn cael un. Mae hyn yn golygu bod eich sefydliad mewn sefyllfa llawer cryfach o ddioddef hacio a blacmel. 

Ac eto mae pob un ohonom yn gwneud camgymeriadau, ac mae'n hawdd i un lithro drwy'r rhwyd, yn enwedig pan fyddwn yn brysur iawn neu o dan lawer o straen. Gall clicio ar atodiad neu ddolen lygredig olygu y caiff maleiswedd ei lawrlwytho i'ch cyfrifiadur a allai gael ei defnyddio i ddatgelu eich cyfrineiriau, mynd i'ch cyfrif e-bost, anfon negeseuon e-bost yn ffugio mai chi ydyn nhw, neu i ddwyn data cleientiaid a'ch blacmelio i'w dychwelyd atoch. Gall y faleiswedd fod ar ffurf meddalwedd gwystlo, sy'n golygu bod yr holl ddata sydd gennych ar eich cyfrifiadur neu rwydwaith wedi'u hamgryptio, a bydd yn rhaid i chi dalu'r troseddwyr i ddychwelyd eich data. 

Sicrhewch mai 2022 yw'r flwyddyn y byddwch yn gwneud eich hun yn fwy diogel rhag ymosodiadau ar-lein. Cysylltwch â Chanolfan Seibergadernid Cymru a gadewch i'r tîm eich helpu i gymryd y camau hawdd hynny i ddiogelu eich hun ac yna cofiwch gael gwybod am y bygythiadau diweddaraf. Efallai y byddwch am osod eich nod yn uwch ac yn edrych i gyflawni nod Cyber Essentials (sef safon seiberddiogelwch wedi'i hanelu at fusnesau a sefydliadau) y gall Canolfan Seibergadernid Cymru hefyd gynorthwyo gydag ef trwy ddarparu manylion cyrff ardystio a all eich helpu i gyflawni hyn.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.