BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Media Cymru yn lansio adnodd rhyngweithiol newydd i annog sgiliau arloesi

social media icons

Mae Media Cymru wedi cyhoeddi adnodd rhyngweithiol newydd ar gyfer gweithwyr y cyfryngau ynghyd â’r rhai sy’n dymuno arloesi a thyfu eu busnesau.

Mae’r adnodd asesu “Pa fath o arloeswr ydych chi?” yn defnyddio corff mawr o lenyddiaeth ymchwil i amlinellu saith nodwedd allweddol neu “rôl” sy’n ysgogi arloesedd. 

Datblygwyd yr adnodd gan dîm ymchwil Media Cymru - sy’n arwain ymchwil arloesol yn y sector cyfryngau creadigol yng Nghymru, ar ôl cael adborth gan gwmnïau cyfryngau a ddaeth i’r casgliad bod angen cymorth arnyn nhw i ddatblygu elfennau o’u busnesau a nodi bylchau mewn sgiliau. 

Ar ôl cwblhau cyfres o gwestiynau, mae cyfranogwyr yn cael canlyniadau personol i’w galluogi i ddeall mwy am eu sgiliau arloesi ac yn cael gwybod pa ‘fath’ o arloeswr ydyn nhw, fel Meddyliwr Beirniadol, Ysgogwr Newid, Empath a Chydweithredwr.

Mae’r adnodd asesu arloesedd ar gael am ddim ar-lein i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arloesi a datblygu busnes.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Media Cymru yn lansio adnodd rhyngweithiol newydd i annog sgiliau arloesi - Media Cymru (CYM)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.