BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Menywod Yn Y Sector Allforio Digwyddiadau

Woman stood by a shipping container looking at a digital tablet

Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i fynychu ein seminar i ddathlu Menywod yn y Sector Allforio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2024, 10am i 12:30pm, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo grymuso menywod yn economaidd, i alluogi menywod yn y sector allforio ac mewn busnesau dan arweiniad menywod i dyfu drwy allforio.

Ymunwch â'n seminar i glywed profiadau menywod llwyddiannus yn y sector allforio, cymryd rhan mewn trafodaeth i hyrwyddo menywod yn y sector allforio ac ysbrydoli rhagor o fusnesau a arweinir gan fenywod a menywod entrepreneuraidd i ragori wrth allforio.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, down ni at ein gilydd i ddathlu llwyddiant a thrawsnewid heriau'n gyfleoedd a llunio dyfodol gwell i bob un ohonon ni sy'n gweithio yn y sector allforio.

I ddysgu mwy ac i gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol: Business Wales Events Finder - Diwrnod Rhyngwladol y Merched: Menywod yn y Sector Allforio (business-events.org.uk)

Ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio, gall cynadleddau Archwilio Allforio Cymru helpu eich busnes. Darganfyddwch fwy: Archwilio Allforio Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.