BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mesurau rheoli ffiniau a seilwaith ar ôl ymadael â’r UE ym Mhorthladdoedd Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd yn amlinellu’r hyn sydd angen i chi ei wybod am gyflwyno safleoedd rheoli ffiniau ym Mhorthladdoedd Cymru.

Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn rhoi trosolwg o’r gofynion ar ôl ymadael â’r UE ar gyfer archwilio nwyddau ar y ffin sy’n symud rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Deyrnas Unedig (DU).

Mae safleoedd rheoli ffiniau eisoes yn bodoli mewn meysydd awyr a phorthladdoedd sydd wedi bod yn mewnforio o wledydd y tu allan i’r UE. Cyfeirir at hyn o bryd i’w gilydd fel masnach Gweddill y Byd. Mae’n rhaid datblygu seilwaith i gynnal yr archwiliadau hyn mewn porthladdoedd a meysydd awyr sy’n bwyntiau mynediad ar gyfer nwyddau o’r UE yn unig.

Mae’r archwiliadau a gynhelir ar safleoedd rheoli ffiniau ar y nwyddau hyn yn cynnwys gwirio dogfennaeth, hunaniaeth ac archwiliadau ffisegol. Eu prif nod yw diogelu bioddiogelwch y DU.

Byddant hefyd yn sicrhau iechyd y cyhoedd a lles anifeiliaid drwy reoli clefydau a rhywogaethau ymledol.

Bydd Cymru yn datblygu’r seilwaith i gynnal yr archwiliadau hyn ym mhorthladdoedd:

  • Caergybi ar Ynys Môn yn y gogledd 
  • Doc Penfro ac Abergwaun yn y De-orllewin

Mae’r porthladdoedd hyn yn trafod cludiant nwyddau rhwng y DU a’r UE.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rheolaethau a seilwaith ffiniau ar ôl ymadael â'r UE / LLYW.CYMRU


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.