BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru drwy fewnfuddsoddi

Cafodd dros 3,000 o swyddi eu creu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i fewnfuddsoddiadau, y canlyniadau gorau a gofnodwyd mewn pum mlynedd, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw (27 Mehefin 2023).

Mae adroddiad blynyddol Adran Busnes a Masnach y DU ar Fuddsoddiadau Uniongyrchol Tramor (FDI) yn y DU ar gyfer 2022 i 2023 a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y swyddi a grëwyd wedi dychwelyd i lefelau cyn Covid gyda 3,062 o swyddi wedi'u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i fyny o 1,793 yn 2021 i 2022, cynnydd o 66% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â thua 91% o'r buddsoddiadau, gan gefnogi busnesau drwy ystod o ymyriadau o gynghori cwmnïau ar safleoedd ac adeiladau posibl, nodi sgiliau a thalent, cymorth gydag ymchwil i'r farchnad a chyflwyno i fanciau, rhwydweithiau busnes a'r byd academaidd.

Mae dros 1,395 o fusnesau tramor yng Nghymru, gan gyflogi dros 161,400 o bobl. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddwyr o’r safon uchaf fel Airbus, Toyota, General Dynamics, Deloitte, Siemens Healthcare ac Oracle.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru drwy fewnfuddsoddi | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.