BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

NCSC yn cynghori sefydliadau i weithredu yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin

Mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol Prydain (NCSC) yn cynghori sefydliadau i fanteisio ar y cyfle i gryfhau gwydnwch seiber, wrth i’r bygythiad seiber gynyddu. Gallai hynny olygu mesurau technegol, ond mwy o graffu a gwyliadwriaeth hefyd, sicrhau bod systemau'n cael eu clytio a'u diweddaru, ac atgoffa staff o arferion da gydag e-byst ac ymosodiadau gwe-rwydo. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: NCSC advises organisations to act following Russia’s... - NCSC.GOV.UK

Mae cyfoeth o gyngor ac arweiniad (Saesneg yn unig) ar gael i sefydliadau, o gyngor Cyber Essentials NSCS i ganllawiau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae eu camau ymarferol ar sut i gadw systemau TG yn ddiogel yn fan cychwyn da, yn ogystal â’u canllawiau am faleiswedd.

Mae seiberddiogelwch yn faes pwysig i bawb, o sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus i fusnesau bach. Mae pobl angen digon o ffydd a hyder yn eu preifatrwydd er mwyn rhannu eu data i gael gafael ar wasanaethau ac arloesiadau. Mae arferion diogelwch data da o fudd i bob un ohonom. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.