BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i gyfreithiau trwyddedu Cymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr, bydd newidiadau dros dro yn cael eu cyflwyno i'r deddfau trwyddedu er mwyn caniatáu i eiddo trwyddedig werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle.

Mae'r Bil Busnes a Chynllunio yn cyflwyno nifer o fesurau brys i helpu busnesau i fynd yn ôl i weithio a llwyddo yn yr amgylchiadau newydd a heriol hyn, drwy gael gwared ar rwystrau tymor byr a allai greu trafferth.

Bydd y Bil yn helpu busnesau i symud o ymateb ar frys i'r argyfwng a'r cyfyngiadau symud, tuag at adferiad economaidd. Mae'r darpariaethau alcohol yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Dim ond i Loegr mae mesurau eraill yn berthnasol.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.