BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i reolau mudo ar gyfer fisâu teulu a gwaith 2024

construction worker

Mae hi bellach yn ofynnol i fusnesau'r DU dalu llawer mwy i weithwyr tramor sy'n dod i'r DU ar fisa Gweithiwr Crefftus.

Y trothwy cyflog cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd y DU ar fisa Gweithiwr Crefftus ar hyn o bryd yw £26,200, gyda'r cynnydd cyntaf i £29,000 yn dod i rym ar 11 Ebrill 2024, ac yn nes ymlaen yn 2024 bydd yn cynyddu i £34,500. Erbyn dechrau 2025 bydd yn £38,700.

Mae'r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder wedi'i diddymu a rhestr cyflogau mewnfudo newydd yn cymryd ei lle. Dim ond swyddi crefftus lle ceir prinder, a rhai sy’n synhwyrol eu cynnwys o ystyried yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud gan sectorau i fuddsoddi yn y gweithlu preswyl, fydd yn cael eu cynnwys ar y rhestr. 

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.