BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021

Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol eich gweithwyr ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,500 y mis, hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Ym mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn talu 70% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,187.50. Ym misoedd Awst a Medi, bydd hyn yn cael ei ostwng i 60% o gyflogau arferol gweithwyr hyd at derfyn o £1,875.

Bydd angen i chi dalu’r 10% o wahaniaeth ym mis Gorffennaf (20% ym misoedd Awst a Medi) fel eich bod yn parhau i dalu’ch gweithwyr ar ffyrlo o leiaf 80% o’u cyflogau arferol am yr oriau nad ydynt yn eu gweithio yn ystod yr amser hwn, hyd at derfyn o £2,500 y mis.

Am yr oriau na chawsant eu gweithio gallwch barhau i ddewis ychwanegu at gyflogau eich gweithwyr uwchlaw y lefel neu gap o 80% bob mis, o’ch poced eich hun.

Er mwyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer pob cyfnod hawlio yn y dyfodol, mae cyfrifiannell y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar gael i’ch helpu i gyfrif faint y gallwch chi ei hawlio at gyfer gweithwyr.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, ewch i GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.