BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Nodwch y dyddiad! 28 Ionawr 2025

View of Europe from Space

Horizon Europe yw rhaglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd sy’n werth £80bn+ dros 7 mlynedd (o 2021). Ei nod yw hybu rhagoriaeth ymchwil, meithrin arloesedd a mynd i’r afael â heriau byd-eang trwy brosiectau cydweithredol a chyfleoedd ariannu.

Bydd Innovate UK, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a'r Adran Gwyddoniaeth Arloesi a Thechnoleg (DSIT) yn cynnal digwyddiad gwybodaeth a rhwydweithio wyneb yn wyneb cyffrous ar 28 Ionawr 2025 yng Nghaerdydd.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu, cysylltu a thrafod cyfleoedd ymchwil ac arloesi cydweithredol Horizon Ewrop a all sbarduno eu prosiectau arloesol. Darganfyddwch sut mae Horizon Ewrop wedi trawsnewid syniadau yn brosiectau llwyddiannus ar draws gwahanol sectorau, a sut y gallai eich un chi fod nesaf. Cofrestrwch nawr.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.