BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Os ydych chi’n chwarae cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio yn eich busnes, bydd angen trwydded arnoch chi!

Os ydych chi’n chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn gyhoeddus neu yn eich busnes chi (yn cynnwys cerddoriaeth gefndir ar CD, radio neu sianel gerddoriaeth) bydd angen i chi gael trwydded o’r enw ‘TheMusicLicence’.

Pwy sydd angen trwydded?

Fel arfer bydd angen trwydded arnoch chi i chwarae cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio yn gyhoeddus - yn cynnwys mewn:

  • siopau
  • swyddfeydd a ffatrïoedd
  • salonau trin gwallt a harddwch
  • sinemâu a theatrau
  • gwestai o bob math
  • bwytai a chaffis
  • tafarnau, bariau a chlybiau nos
  • meysydd chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon eraill (fel alïau bowlio)
  • campfeydd a chyfleusterau iechyd eraill
  • neuaddau bingo a chasinos
  • clybiau cymdeithasol a chlybiau aelodau
  • eglwysi a neuaddau
  • trafnidiaeth gyhoeddus

Does dim angen trwydded arnoch chi i chwarae cerddoriaeth heb freindal.

Faint mae’n costio?

Mae cost trwydded yn amrywio. Mae’n seiliedig ar bethau fel:

  • y lleoliad lle caiff y gerddoriaeth ei chwarae
  • sut caiff y gerddoriaeth ei defnyddio

Cysylltwch â PPL PRS i holi a oes angen trwydded arnoch chi ac i gael dyfynbris drwy e-bostio customerservice@pplprs.co.uk, neu ffonio 0800 0720 808, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm. Fel arall, ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth. 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.