BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Os ydych chi’n defnyddio neu gyflenwi contractwyr, mae yna rai newidiadau treth pwysig

Daw newidiadau i reolau gweithio oddi ar y gyflogres (IR35) i rym ar 6 Ebrill 2021.

Os ydych chi’n defnyddio contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu gyfryngwyr, a’ch bod yn sefydliad canolig neu fawr y tu allan i’r sector cyhoeddus, yna mae angen i chi weithredu i baratoi.

Os ydych chi’n cyflenwi contractwyr sy’n gweithio drwy eu cwmni cyfyngedig eu hunain neu drwy gyfryngwyr eraill, ac nad ydych chi’n asiantaeth gyflogaeth, mae angen i chi ddeall y newidiadau ac efallai y bydd angen i chi weithredu.

Mae CThEM yn cynnal cyfres o weminarau yn rhoi trosolwg o’r rheolau - cadwch lygad am ddyddiadau gweminarau seiliedig ar bynciau, gan gynnwys cadwyni cyflenwi rhyngwladol.

Bydd angen i’ch contractwyr ddeall y gallai’r ffordd rydym yn talu treth newid. Yn ddiweddar, mae CThEM wedi cyhoeddi a diweddaru taflen ffeithiau i gontractwyr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.