BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Osgoi treth: peidiwch â chael eich twyllo

Mae CThEM wedi lansio’r ymgyrch ‘Tax avoidance: don’t get caught out’ sy’n targedu contractwyr a allai ddod ar draws pobl neu fusnesau sy’n marchnata cynlluniau osgoi treth, neu a allai fod yn wynebu cynllun sy’n cael ei argymell  gan drydydd parti neu wrth chwilio ar y Rhyngrwyd.

Gall contractwr fod yn hunangyflogedig, yn weithiwr neu’n weithiwr cyflogedig os yw’n gweithio i gleient sy’n cael ei gyflogi gan asiantaeth. Mae osgoi treth yn golygu gwyrdroi rheolau treth i geisio ennill mantais o ran treth nad oedd y bwriad erioed. Fel arfer, mae’n ymwneud â thrafodion sydd wedi’u dyfeisio nad oes unrhyw ddiben iddynt, heb law gostwng swm y dreth y mae rhywun yn gorfod ei thalu yn artiffisial.

Gall cynlluniau osgoi treth greu dyledion treth sy’n newid bywydau pobl sy’n cael eu temtio heb ddeall y risg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen ‘Tax avoidance: don’t get caught out’ CThEM sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol a hanesion personol i gontractwyr addysgu eu hunain am beryglon cynlluniau osgoi treth a sut i’w hadnabod.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.