BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratoi ar gyfer diffodd PSTN yn 2025

O 2025, bydd llinellau ffôn ISDN (rhwydwaith digidol gwasanaethau integredig) a PSTN (rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus) yn cael eu diffodd yn barhaol ac mae hyn yn berthnasol i gwsmeriaid busnes a chartref.

Mae angen i chi ddechrau cynllunio eich symudiad heddiw oherwydd gallai fod llawer i'w wneud. 

Cofiwch, nid yw'n ymwneud â'ch gwasanaethau ffôn yn unig, mae angen i chi adolygu popeth rydych chi'n ei gysylltu â'ch llinellau ffôn, fel larymau, peiriannau EPOS, systemau mynediad drysau, teledu cylch cyfyng, a ffacsiau. 

Mae llawer o fusnesau eisoes wedi dechrau defnyddio model digidol, gan symud eu cyfathrebiadau i'r cwmwl, gwneud galwadau dros y rhyngrwyd a defnyddio fideogynadledda.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.