BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratowch ar gyfer y flwyddyn dreth newydd

Nawr yw'r cyfle perffaith i wirio’r newidiadau allweddol sy'n effeithio ar y gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.  

Cewch drosolwg o'r prif newidiadau drwy ymuno â gweminar byw CThEF 'Cyflogwyr – beth sy'n newydd ar gyfer 2023 i 2024', lle gallwch ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin.

Ymunwch â'r gweminar byw hwn i gael trosolwg o'r cyfraddau newydd ar gyfer: 

  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
  • Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 
  • Taliadau statudol

Gallwch hefyd gael gwybod am unrhyw newidiadau i dreuliau a budd-daliadau, didyniadau Benthyciadau Myfyrwyr, rhoi gwybod am gyflog ymlaen llaw, gwiriadau cyn cyflog, Treth Pecynnau Plastig, a newidiadau sy'n effeithio ar y rheiny sydd hefyd yn hunangyflogedig.

Cynhelir y gweminar ar ddyddiadau gwahanol ym mis Mawrth. I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol Registration (gotowebinar.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.