BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Partïon stryd a digwyddiadau cymunedol: Lleihau risgiau diogelwch bwyd

Rhwng 2 a 5 Mehefin 2022 bydd cymunedau yn dod at ei gilydd i fwynhau penwythnos gŵyl banc hir. Mae’n debygol y bydd llawer o gymunedau yn cwrdd am y tro cyntaf ers dyfodiad COVID-19.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi creu canllawiau wedi’u teilwra i gefnogi’r rhai sy’n cynnal partïon ac yn gweini bwyd, gyda’r nod o leihau risg a sicrhau bod bwyd yn ddiogel i bawb – fel y gall pob un ohonom fwynhau achlysuron o’r fath i’r eithaf!

Trosolwg o gyngor yr ASB

Nod y canllawiau yw helpu pobl i ddeall pa fesurau i’w cymryd i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Mae’r cyngor yn cynnwys:

  • Hylendid bwyd
  • Sicrhau bod bwyd oer yn cael ei drin yn briodol
  • Atal croeshalogi
  • Sicrhau bod bwyd wedi’i goginio’n iawn, fel byrgyrs ar farbeciw
  • Helpu pobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau

Mae’r canllawiau llawn ar gael i’w gweld ar wefan yr ASB: Sut i gynnal parti stryd yn ddiogel | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk) 

Mae’n gyfnod prysur i lawer o fusnesau, felly mae’r ASB wedi llunio pecyn i helpu i gyfleu’r negeseuon hyn, gan gynnwys:

  • Negeseuon drafft i’w ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Delweddau statig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r pecyn adnoddau ar gael i’w lawrlwytho: Dropbox – Cymru | Wales – Simplify your life 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.